Gweithiwr Cefnogi – Anableddau Dysgu – Harlech ac Barmouth

Gweithiwr Cefnogi Anableddau Dysgu 

Harlech ac Barmouth

‘Rwy’n fwy na bodlon gwneud cymwynas i helpu pobl, waeth pa mor fach neu fawr’

Mae Gweithiwr Cefnogi Anableddau Dysgu Allied yn rhywun sydd wrth ei fodd yn gwneud i eraill deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; unigolyn cadarnhaol a gonest, sy’n dda am ddeall pobl eraill ac sydd am wneud pethau’n iawn. Mae ein Gweithwyr Cefnogi’n ddibynadwy ac yn gweithio’n galed hefyd. Allech chi fod yn addas i Allied?

Mae Allied Healthcare yn cynnal CYFWELIADAU LLEOL AR UNWAITH ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Anableddau Dysgu yn ein Cangen yn Nolgellau. Rydym yn awyddus i siarad â gyrwyr a all weithio yn Nolgellau, Harlech a’r ardaloedd cyfagos.

Dyma rai o’r manteision i staff:

- Oriau Contract Gwarantedig*
- Hyfforddiant llawn – DOES DIM ANGEN PROFIAD
- Sifftiau hyblyg – yn ystod yr wythnos, gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Gwaith llawn a rhan amser ar gael
- Hyd at 28 diwrnod o wyliau â thâl (gan gynnwys gwyliau banc)
- Cyflog wythnosol
- Gostyngiadau gwych yn rhai o siopau adnabyddus y stryd fawr
- Iwnifform am ddim

Mae ein tîm o Weithwyr Cefnogi Anableddau Dysgu’n gyfrifol am annog ac ysgogi pobl sydd ag amrywiol anghenion er mwyn iddyn nhw allu byw fel maen nhw'n ei ddymuno, yn eu cartrefi eu hunain, a byw'n fwy annibynnol yn eu cymuned.

Mae'r dyletswyddau’n cynnwys:

- Cefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion, sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu gyda’u teuluoedd, i fyw’n fwy annibynnol fel aelodau cyfartal o’u cymuned.
- Ysgogi eich cwsmer i weithio tuag at y nodau a bennwyd ganddo
- Cefnogi cwsmeriaid i siopa neu fynd o fan i fan yn y gymuned leol, cael mynediad at grwpiau chwilio am ddêt, hobïau, chwaraeon, darllen llythyrau, talu biliau, ac ati.
- Cynorthwyo gyda gofal personol (golchi ac ymolchi)
- Rhoi meddyginiaeth
- Paratoi bwyd
- Gwaith tŷ ysgafn
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion ein cwsmeriaid, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau weithiau.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gyrru, ac yn meddu ar drwydded yrru lawn a'u cerbyd eu hunain.

Rhaid cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn cael eich penodi. Os ydych wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru newydd gan y DBS, cofiwch ddweud hyn wrthym a chaiff eich cais ei brosesu’n gyflym drwy ein proses cydymffurfio.

Os yw hyn yn apelio atoch ... cymhwyso heddiw yn Recruitment@alliedhealthcare.com

* Bydd Oriau Gwarantedig yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso gan gynnwys cwblhau cyfnod prawf/hyfforddi o dri mis.

Care
Home Care
Allied Healthcare
Region 2
Dolgellau
Harlech
Harlech
Morning, Afternoon, Evening, Alternate Weekends
Monday, Tuesday, Wednesday, Thursday, Friday, Saturday, Sunday
All day (7am - 10pm)
To be discussed in branch
Guaranteed Hours

This vacancy is closed to applications.