Gweithiwr Gofal Cartref- Fairbourne & Barmouth


          Gweithiwr Cefnogi Gofal Cartref
                              ‘Rwy’n fwy na bodlon gwneud cymwynas i helpu pobl, waeth pa mor fach neu fawr’

Mae Gweithiwr Gofal Cartref Allied yn rhywun sydd wrth ei fodd yn gwneud i eraill deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; unigolyn cadarnhaol a gonest, sy’n dda am ddeall pobl eraill ac sydd am wneud pethau’n iawn. Mae ein Gweithwyr Gofal yn ddibynadwy ac yn gweithio’n galed hefyd. Allech chi fod yn addas i Allied?

Mae Allied Healthcare yn cynnal CYFWELIADAU LLEOL AR UNWAITH ar gyfer Gweithwyr Gofal Cartref yn ein Cangen yn Nolgellau.

Rydym yn awyddus i siarad â gyrwyr a all weithio yn BERMO ac yn FRIOG a’r ardaloedd cyfagos.
Fel Cynorthwydd Gofal gyda Allied yn ein cangen Dolgellau, byddwch chi'n elwa o dâl wythnosol, gyda photensial ennill o lea £205.25 yr wythnos! *
Dyma rai o’r manteision i staff:


- Oriau Contract Gwarantedig*
- Hyfforddiant llawn sy’n cael ei dalu – DOES DIM ANGEN PROFIAD
- Sifftiau hyblyg – yn ystod yr wythnos, gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Gwaith llawn a rhan amser ar gael, I’w drafod gyda’r gangen.
- Hyd at 28 diwrnod o wyliau â thâl (gan gynnwys gwyliau banc)
- Cyflog sy’n talu wythnosol
- Iwnifform am ddim
- Ffon symudol am ddim


** Mae tâl a hysbysebir uchod yn seiliedig ar wythnos 25 awr ar gyfartaledd bob awr yn y gangen benodol hon. Mae enillion pob unigolyn yn dibynnu ar faint o oriau a weithiwyd
Mae ein tîm o Weithwyr gofal cartref yn gyfrifol am annog ac ysgogi pobl sydd ag amrywiol o anghenion er mwyn iddyn nhw allu byw fel maen nhw'n ei ddymuno, yn eu cartrefi eu hunain, a byw'n fwy annibynnol yn eu cymuned.
Mae'r dyletswyddau’n cynnwys:


- Cefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion, sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu gyda’u teuluoedd, i fyw’n fwy annibynnol fel aelodau cyfartal o’u cymuned.
- Ysgogi eich cwsmer i weithio tuag at y nodau a bennwyd ganddo
- Cefnogi cwsmeriaid i siopa neu fynd o fan i fan yn y gymuned leol, cael mynediad at grwpiau chwilio am ddêt, hobïau, chwaraeon, darllen llythyrau, talu biliau, ac ati.
- Cynorthwyo gyda gofal personol (golchi ac ymolchi)
- Rhoi meddyginiaeth
- Paratoi bwyd
- Gwaith tŷ ysgafn
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion ein cwsmeriaid, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau weithiau


Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gyrru, ac yn meddu ar drwydded yrru lawn a'u cerbyd eu hunain.
Rhaid cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn cael eich penodi. Os ydych wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru newydd gan y DBS, cofiwch ddweud hyn wrthym a chaiff eich cais ei brosesu’n gyflym drwy ein proses cydymffurfio.
Os yw hyn at eich dant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae AHG yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn cael ei reoleiddio gan AGGCC
Gwnewch gais heddiw yn www.alliedhealthcarejobs.co.uk
Oherwydd natur y rôl hon, mae'n ofynnol i'n gweithlu gofalwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.


* Bydd Oriau Gwarantedig yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso gan gynnwys cwblhau cyfnod prawf/hyfforddi o dri mis.


If this appeals to you...apply today at Recruitment@alliedhealthcare.com



Care
Home Care
Allied Healthcare
Region 2
Dolgellau
Dolgellau
Abermaw, Friog
Morning, Afternoon, Evening, Alternate Weekends
Monday, Tuesday, Wednesday, Thursday, Friday, Saturday, Sunday
7am - 10am, 10am - 1pm, 1pm - 4pm, 4pm - 7pm, 7pm - 10pm
Alternate weekends
Part-Time, Guaranteed Hours

This vacancy is closed to applications.